Cynlluniau Gweithredu
Mae canllawiau o’r fframwaith Trawsnewid Trefi yn nodi bod angen i brosiectau fod yn rhan o gynllun cyffredinol -
“Ystyriaeth allweddol a phwysig i Lywodraeth Cymru yw bod cynllun strategol yn ei le ar gyfer canol tref ddynodedig. Dylai’r cynllun hwn fod o’r gwaelod i fyny, wedi’i yrru gan y gymuned ac mae angen iddo gynnwys partneriaid allweddol fel AGB, Cynghorau Tref a Chymuned a sefydliadau trydydd sector lleol ymhlith grwpiau lleol eraill.” ceir canllawiau pellach ar Drawsnewid Trefi yma]
Un o’r camau cyntaf ar eich taith i ddod yn Dref Smart yw nodi a oes cynlluniau o’r fath eisoes yn bodoli, neu ddechrau llunio cynllun.
Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid a nodi prif flaenoriaethau neu faterion y dref y mae angen mynd i’r afael â nhw.
Isod gallwch weld enghreifftiau o Gynlluniau Gweithredu ar gyfer trefi ledled Cymru.
Ddim yn gweld eich tref yma? Cysylltwch â ni yn smarttowns@mentermon.com i ddarganfod sut y gallwch chi ddechrau!
Cynlluniau Creu Lleoedd Owen Davies
Fel rhan o Flwyddyn Trefi Smart, crëwyd 10 cynllun gweithredu gan yr ymgynghorydd creu lleoedd Owen Davies. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys trosolwg o nodweddion, cynlluniau a phartneriaethau canol y dref, adolygiad digidol strategol o’r dref ac asesiad lle digidol, cyn gosod blaenoriaethau ar gyfer y dref a chyflwyno cynllun gweithredu.
Gallwch ddod o hyd i astudiaethau achos yn seiliedig ar y cynlluniau hyn yma
Cynlluniau gweithredu a gynhyrchwyd gan Owen Davies
- Abergavenny
- Ammanford
- Crickhowell
- Kidwelly
- Llandudno
- Pontypridd
- Port Talbot
- Treorchy
- Y Gelli
- Wrecsam
Cynlluniau Gweithredu wedi'u hadolygu gan y Tîm Trefi Smart
Hyd yn hyn, rydym wedi cynnal gweithdai ‘Dod yn Dref Smart’ i dros 60 o drefi ledled Cymru. Yn dilyn y gweithdai hyn mae llawer o drefi wedi dod at ei gilydd i ffurfio Tîm Smart ac wedi creu eu cynllun gweithredu eu hunain er mwyn gwneud cais am gyllid a gweithio tuag at ddod yn Dref Smart.
Mae ein Tîm Smart wedi adolygu’r cynlluniau hyn ac wedi cynnwys ein hawgrymiadau, ac rydym yn parhau i gynnig y gwasanaeth hwn a chymorth parhaus.
Gallwch ddod o hyd i dempled ar gyfer eich cynllun gweithredu eich hun yma:
Cysylltwch â smarttowns@mentermon.com os hoffech unrhyw gefnogaeth.
Cynlluniau Gweithredu a gynhyrchwyd gan Smart Gwynedd a Môn
Mae Smart Gwynedd a Môn yn brosiect gan Fenter Môn sy’n cael ei ariannu gan gynghorau sir Ynys Môn a Gwynedd. Yn dilyn gosod WiFi ar strydoedd mawr ar draws y ddwy sir, mae gweithdai’n cael eu cynnal gyda threfi er mwyn llunio cynlluniau gweithredu i barhau â’u datblygiad fel Trefi Smart. Os hoffech ymuno â Thîm Smart yn Ynys Môn neu Wynedd cysylltwch â smartgwyneddamon@mentermon.com