Croeso i wefan Trefi Smart
Mae tref smart yn ardal drefol sy'n defnyddio gwahanol fathau o ddulliau electronig a synwyryddion i gasglu data. Defnyddir mewnwelediadau a geir o'r data hwnnw i reoli asedau, adnoddau a gwasanaethau yn effeithlon; yn ymateb I hyn felly, defnyddir y data hwnnw i wella gweithrediadau a ffyniant yn y dyfodol ar draws y dref.
Mae rhaglen Trefi Smart Llywodraeth Cymru wedi'i ymestyn tan 2025.
Hyd yma (Mehefin 2024) mae'r Tîm Trefi Smart wedi darparu dros 116 o weithdai/digwyddiadau ar-lein i tua 1693 o bobl mewn cynghorau sir, cynghorau tref a busnesau lleol, ymgysylltu gyda dros 130 o drefi, wedi cynhyrchu 30+ o gynlluniau gweithredu digidol ac wedi gweithredu prosiectau peilot ac astudiaethau achos ledled Cymru. Ewch i'n tudalen digwyddiadau i weld lluniau o rai o'n digwyddiadau diweddar a'n dolenni i'n sesiynau sydd I ddod.
Mae'r rhaglen yn parhau i gefnogi busnesau, cynghorau a chymunedau i ddefnyddio technoleg ddigidol a data i adfywio eu strydoedd mawr, yn unol â'r agenda Trawsnewid Trefi.
Mae hyn yn golygu helpu busnesau i ddefnyddio data i weithio'n ddoethach ac nid yn galetach ac i nodi cyfleoedd ar gyfer twf; defnyddio data i gyfiawnhau a llywio buddsoddiad ac i fesur llwyddiant unrhyw ymyriadau.
Mae'r wefan hon yn darparu cyfoeth o wybodaeth am Drefi Smart yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd. Dechreuwch gyda'n llawlyfr dosbarthu Trefi Smart ar gyfer popeth sydd angen i chi ei wybod am ddechrau eich taith Trefi Smart. Gallwch daro golwg ar ein hastudiaethau achos a'n cynlluniau gweithredu ar gyfer ysbrydoliaeth. Dewch o hyd i ganllawiau penodol i leddfu eich pryderon casglu data.
Mae ein Tîm Smart wrth law i ateb unrhyw ymholiadau ac i'ch cefnogi ar unrhyw gam o'ch taith. Cysylltwch â ni yma.
Digwyddiadau