Darganfod Data i Drefi Cymru
Mae data yn arf amhrisiadwy i gymunedau, busnesau ac awdurdodau cyhoeddus ddatblygu economïau a gwasanaethau lleol. Dyna pam mae Trefi Smart Cymru wedi cynhyrchu archwiliad llawn o’r data sydd ar gael sy’n berthnasol i Drefi Cymru.
Canfu ymchwil gan Lywodraeth Cymru fod llawer o drefi yn gwneud defnydd cyfyngedig o’u data. Priodolwyd hyn i ddiffyg gwybodaeth am ba ddata sydd ar gael a lle gellir dod o hyd iddo. Arweiniodd hyn i Drefi Smart Cymru i weithio gyda’r ymgynghoriaeth seiliedig ar leoedd Urban Foresight i archwilio’r holl ddata sydd ar gael a allai fod yn ddefnyddiol i drefi Cymru.
Trwy wneud y data cyhoeddus hwn yn hygyrch ac yn hawdd i'w ddehongli, gall y rhai sy'n gwneud penderfyniadau gynllunio adnoddau, gwasanaethau cyhoeddus a thargedu gwasanaethau yn fwy effeithlon yn y dyfodol. Mae dros 170 o wahanol setiau data wedi’u dadansoddi a’u coladu yn is-grwpiau amrywiol y gellir eu cyrchu drwy’r offeryn ar-lein rhad ac am ddim isod.
MYNEDIAD AM DDIM AR-LEIN I’R OFFERYN YMA
Yn ogystal â’r offeryn data, mae adroddiad wedi’i gynhyrchu sy’n rhoi cefndir i’r prosiect, yn ogystal ag amlygu rhai argymhellion allweddol ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat. I weld yr adroddiad gweler isod.